Numbers 7

Offrymau'r arweinwyr

1Ar y diwrnod pan oedd Moses wedi gorffen codi'r Tabernacl, dyma fe'n eneinio a chysegru'r cwbl – y Tabernacl ei hun a'r holl ddodrefn ynddo, a'r allor a'i holl offer. 2Yna dyma arweinwyr Israel yn dod i wneud offrwm (Nhw oedd yr arweinwyr oedd wedi bod yn goruchwylio'r cyfrifiad.) 3Dyma nhw'n dod â chwe wagen gyda tho, a deuddeg ychen – sef un wagen ar gyfer dau arweinydd, a tharw bob un. A dyma nhw'n eu cyflwyno nhw i'r Arglwydd o flaen y Tabernacl.

4A dyma'r Arglwydd yn dweud wrth Moses: 5“Derbyn yr ychen a'r wagenni yma ganddyn nhw, i'w defnyddio yng ngwaith y Tabernacl. Rhanna nhw rhwng y Lefiaid, iddyn nhw allu gwneud y gwaith sydd gan bob un i'w wneud.”

6Felly dyma Moses yn derbyn y wagenni a'r ychen, a'u rhoi nhw i'r Lefiaid. 7Dwy wagen a pedwar ychen i'r Gershoniaid, i wneud eu gwaith. 8Dwy wagen a pedwar ychen i'r Merariaid, i wneud eu gwaith nhw, gyda Ithamar fab Aaron yr offeiriad yn eu goruchwylio. 9Ond gafodd y Cohathiaid ddim wagenni nac ychen. Roedden nhw i fod i gario pethau cysegredig y Tabernacl ar eu hysgwyddau.

10Cyflwynodd yr arweinwyr roddion pan gafodd yr allor ei heneinio a'i chysegru hefyd. Dyma nhw i gyd yn gosod eu rhoddion o flaen yr allor. 11Achos roedd yr Arglwydd wedi dweud wrth Moses, “Rhaid i bob arweinydd gyflwyno offrwm ar gyfer cysegru'r allor. Mae pob un ohonyn nhw i wneud hynny ar ddiwrnod gwahanol.”

12Dyma pwy wnaeth gyflwyno eu hoffrwm, ac ar ba ddiwrnod:

Diwrnod Llwyth Arweinydd
1af Jwda Nachshon fab Aminadab
2il Issachar Nethanel fab Tswár
3ydd Sabulon Eliab fab Chelon
4ydd Reuben Elisur fab Shedeŵr
5ed Simeon Shelwmiel fab Swrishadai
6ed Gad Eliasaff fab Dewel
7fed Effraim Elishama fab Amihwd
8fed Manasse Gamaliel fab Pedatswr
9fed Benjamin Abidan fab Gideoni
10fed Dan Achieser fab Amishadai
11eg Asher Pagiel fab Ochran
12fed Nafftali Achira fab Enan

Roedd offrwm pawb yr un fath: Plât arian yn pwyso cilogram a hanner a powlen arian yn pwyso tri chwarter cilogram. Roedd y ddau yn llawn o'r blawd gwenith gorau wedi ei gymysgu gydag olew olewydd i'w gyflwyno fel offrwm o rawn. Padell aur yn pwyso can gram. Roedd hon yn llawn arogldarth. Un tarw ifanc, un hwrdd, ac un oen gwryw blwydd oed, yn offrwm i'w losgi'n llwyr. Un bwch gafr yn offrwm puro. A dau ychen, pum hwrdd, pum bwch gafr, a pum oen gwryw blwydd oed yn offrwm i gydnabod daioni'r Arglwydd.

84Felly cyfanswm yr offrymau gyflwynodd arweinwyr Israel pan gafodd yr allor ei heneinio oedd:

– un deg dau plât arian yn pwyso cilogram a hanner yr un
– un deg dwy powlen arian yn pwyso tri chwarter cilogram yr un

(Felly roedd y llestri arian i gyd yn pwyso dau ddeg saith cilogram, yn ôl pwysau safonol y cysegr)

– un deg dwy badell aur yn llawn o arogldarth, yn pwyso can gram yr un

(Felly roedd y padellau aur i gyd yn pwyso un cilogram a dau gan gram yn ôl pwysau safonol y cysegr)

– un deg dau tarw ifanc, un deg dau hwrdd ac un deg dau oen gwryw blwydd oed yn offrymau i'w llosgi'n llwyr – pob un gyda'i offrwm o rawn
– un deg dau bwch gafr yn offrymau puro
– dau ddeg pedwar tarw ifanc, chwe deg hwrdd, chwe deg bwch gafr a chwe deg oen gwryw blwydd oed yn offrymau i gydnabod daioni'r Arglwydd.

Dyna'r rhoddion gafodd eu cyflwyno pan oedd yr allor yn cael ei chysegru a'i heneinio.

89Pan aeth Moses i mewn i Babell Presenoldeb Duw i siarad â'r Arglwydd, clywodd lais yn siarad gydag e. Roedd y llais yn dod o rywle uwch ben caead Arch y dystiolaeth oedd rhwng y ddau geriwb. Roedd yn siarad gyda Moses.

Copyright information for CYM